Newyddion

Canfyddiad, Derbyniad: Hanes y Cyfryngau mewn Cymdeithas

4-6 Gorffennaf 2012

Mae 4edd Gynhadledd Media History, a gynhelir gan Ganolfan Hanes y Cyfryngau, Prifysgol Aberystwyth, yn ystyried sut mae pobl wedi deall swyddogaethau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol y cyfryngau o’r 15fed ganrif i’r 21ain mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol.

Bydd y cyfranwyr yn cynnwys:

Garth Jowett, Prifysgol Houston – Prif Siaradwr
Gabriele Balbi, Laurel Brake, Hans-Frederick Dahl, Michael Harris, Mark Hampton, Aled Jones, Chandrika Kaul, Kate Lacey, Jason McElligott, Darrell Newton, Sean Nixon, Sian Nicholas, Tom O’Malley, Michael Palmer, Mandy Powell, Joad Raymond, Joanne Shattock, Mark Turner a Kevin Williams

Bydd paneli’r gynhadledd yn ymchwilio, o amryw safbwyntiau, i’r mathau o ddealltwriaethau a aeth law yn llaw â datblygiadau’r cyfryngau (yn argraffedig ac electronig fel ei gilydd) drwy amser ac ar draws gwahanol genhedloedd a diwylliannau. Bydd y themâu yn cynnwys: damcaniaethau am y cyfryngau; ymatebion cyfryngau i gyfryngau eraill; darlledu fel cyfrwng ceidwadaeth neu newid; diplomyddiaeth, darbwyllo a’r cyfryngau; rhyfel a’r wasg; y cyfryngau ac addysg; newyddiadurwyr a newyddiaduraeth; canfyddiadau o swyddogaeth y wasg dros amser; y cyfryngau a mudiadau deallusol; a rheoleiddio’r cyfryngau. Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys trafodaethau bord gron a drefnir yn arbennig i ystyried y cyfryngau yn y cyfnodau modern a modern cynnar.

Ceir y rhaglen ddrafft a’r manylion cofrestru ar wefan Canolfan Hanes y Cyfryngau. 6 Mehefin 2012 yw’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru.

Ysgoloriaeth PhD mewn Cyfryngau Digidol

Mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn falch o gyhoeddi ysgoloriaeth PhD ym maes y Cyfryngau Digidol a gyllidir drwy gynllun KESS. Cynigir yr ysgoloriaeth mewn partneriaeth â Golwg360. Mae’r ysgoloriaeth yn gyfle ardderchog i archwilio’r meysydd heriol hyn, gyda’r gwaith ymchwil wedi ei leoli’n gadarn yn yr economi ddigidol Gymreig. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gychwyn ar yr Ysgoloriaeth yn Medi 2011.

Manylion pellach yma ar gyfer Ysgoloriaeth Prosiect  ‘Strategaethau ar gyfer Cynhyrchu a Dosbarthu Cynnwys Aml-Gyfryngol Ar-lein mewn Cyd-destunau Lleol a Hyper-Lleol yn yr iaith Gymraeg’ mewn cydweithrediad â Golwg360.

Dyddiad cau: 25 Awst 2011

Ysgoloriaeth ôl-raddedig PhD mewn Sgriptio.

Cynigir yr ysgoloriaeth am gyfnod o hyd at 5 mlynedd. Bydd yr ymchwil ym maes sgriptio ar gyfer y theatr ond gall yr astudiaeth hefyd gyfeirio at sgriptio mewn meysydd perthnasol eraill megis Ffilm a Theledu a/neu’r Cyfryngau Newydd. Mae gan yr Adran gryn brofiad ym maes doethuriaethau ymarferol a gall yr astudiaeth hon gynnwys elfen sylweddol o waith ymchwil creadigol, ymarferol.

Bydd disgwyl i’r deiliad gyfrannu at ddarlithio drwy gyfrwng y Gymraeg o’r ail flwyddyn astudio ymlaen. Bydd disgwyl i’r deiliad gwblhau’r prosiect ymchwil erbyn diwedd y drydedd neu’r bedwaredd flwyddyn a hynny am fod blwyddyn olaf y cynllun yn flwyddyn gymrodoriaeth pan fydd y deiliad yn derbyn cyflog fel Cymrawd. 

Cefnogir yr Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fanylion pellach, cysyllter â’r Dr Anwen Jones, aej@aber.ac.uk (Dyddiad cau: 1 Awst 2011)


Galwad am bapurau: "Perception, Reception and Deception: The role of the media in society"

Coleg y Drindod Dulyn, 19-21 Ebrill 2011

[testun gwreiddiol Saesneg]

The 4th biennial Media History conference will focus on the ways in which people have understood the social, cultural and political roles of the media over the past five centuries. The concept of ‘the media’ will be interpreted broadly, so as to include newspapers, magazines and one-off publications which included news and information, as well as manuscript, aural, visual, and broadcast and other electronic sources.

A great deal of work has been done by scholars on the institutional, political and cultural history of various forms of media. ‘Perception, Reception and Deception’ will build on this literature to explore the ways in which print, manuscript, visual representations and the broadcast media have been understood, conceptualised, and imaginatively represented in the societies in which they were produced. It will, in other words, focus not on media production but on the reception, depiction and perception of the media by individuals and groups of individuals in a variety of different contexts over time. How have readers, consumers, and the industry itself framed arguments about the media as a force for good (or evil) at different points in time? Have contemporaries always seen the media as an agent of change, or is there a counter-history of the media to be written in terms of promoting conservatism, deference and order? How have people understood and represented the media in terms of concepts of personal and geographical space, time and changing belief systems? Can we think ‘internationally’ about the similarities and differences between perceptions of the media in different states and nations over time, or is the media still best understood and examined in largely local or regional contexts? How, in short, have men and women answered in different contexts the apparently simple questions, ‘what is the media, and what is it for?’

Abstracts, of no more than 200 words for papers of between 20 to 25 minutes duration, should be sent by close of business on 30 September 2010 to Mediahistory2011@gmail.com.

We welcome proposals from a range of chronological, geographical and methodological backgrounds.

‘Perception, Reception and Deception’ is jointly organised by the Trinity Long Room Hub, Trinity College Dublin, the Centre For Media History, Aberystwyth University, and the journal Media History. Additional enquiries can be directed to one or more of the following: Dr. Jason McElligott, Dr Sian Nicholas or Professor Tom O’Malley.

 

Prosiect Ymchwil Newydd: Plant, Teledu a’r We

Ar 19 Ebrill 2010, lansiwyd prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) rhwng yr adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a Boomerang+, sef cwmni cynhyrchu o Gaerdydd. Boomerang+ yw un o’r cwmnïau mwyaf yn y DU sy’n cynhyrchu rhaglenni teledu gwreiddiol i blant, ac mae sefydlu’r KTP yn eu galluogi i fanteisio ar arbenigedd ymchwil Dr. Merris Griffiths, arbenigwraig ym maes cyfryngau plant.

Bydd Dr. Griffiths yn gweithredu fel Arolygwr Academaidd ar gyfer y prosiect, ar y cyd ag Arolygwr y Cwmni, Angharad Garlick. Penodwyd Helen Davies fel Cydymaith Ymchwil a bydd hi’n gyfrifol am weithio gyda phlant ledled Cymru i lunio data grŵp ffocws, a chymhwyso’r darganfyddiadau i arferion cynhyrchu’r cwmni.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar arferion a dewisiadau cyfryngau plant rhwng 7 ac 11 oed, gyda phwyslais ar y modd y maent yn defnyddio’r teledu a’r rhyngrwyd. Bydd y gwaith hwn yn cyd-daro â lansiad gwasanaeth newydd y cwmni i S4C, sef cyflwyno rhaglenni gwreiddiol i blant rhwng 7 a 13 oed.

Caiff y prosiect ei ariannu am ddwy flynedd, gyda grant sy’n werth dros £82,000, gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg.

Darllenwch y datganiad swyddogol i’r wasg yma: http://www.aber.ac.uk/aberonline/cy/archive/2009/11/au16109/

 

Jill Greenhalgh wedi ennill grant £20,000 gan Cyngor Celfyddydau Cymru

Bydd Jill yn cynhyrchu perfformiad o’r enw 'The Threat of Silence'.  Bydd y gwaith newydd hwn yn rhan o’i hymchwil bresennol ar Dawelwch mewn Perfformiadau, gan geisio datblygu ffurf sy’n mynd ati’n fwriadol i gofleidio grym distawrwydd, llonyddwch a thawelwch drwy ymchwilio i strategaethau dynamig, a’u rhoi ar waith, i symud y tu hwnt i’r ansymudol neu’r gorsyml wrth ddefnyddio amser estynedig. Bydd y gwaith yn gofyn sut y gallai elfennau perfformiadau – lle, technoleg, testun, gweithredwch a sain – gael eu ffurfio i greu amser a hafan rhag y tonnau o swn, y wybodaeth ormodol, a’r sothach dihangfaol o fanylion dibwys, sy’n llenwi ein bywydau heddiw hyd syrffed.

Dr Jamie Medhurst yn ennill grant Rhwydweithio Ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) gwerth bron  £34,000.

Mae’r rhwydwaith rhyngwladol hwn, o’r enw 'British quality, American chaos? Transnational discourses and interactions in the history of British and North American broadcasting, c.1922-1962' yn dod ag ysgolheigion, ymchwilwyr ac archifwyr at ei gilydd o wledydd Prydain, gogledd America a’r tu hwnt. Y Dr. Hugh Chignell o Ysgol y Cyfryngau Prifysgol Bournemouth yw’r Cyd-Archwiliwr.

Ffilm gan Ddarlithydd ThFfTh, John Burgan, yn cael ei dangos yn Southbank y BFI

Ym mis Hydref cafodd 'Memory Of Berlin'  (1998) ei dangos gan Sefydliad Ffilm Prydain yn Llundain, ffilm a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Ddarlithydd yr Adran ThFfTh John Burgan. Dangosir y ffilm hefyd ym Merlin yn ystod ym mis Tachwedd i gyd-fynd ag ugeinfed pen-blwydd cwymp y Mur. Os na allwch fynd i Lundain na Berlin, bydd cyfle i’w gweld yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth am 8.15 yr hwyr ar 24 Tachwedd. Cyn sgrinio’r ffilm honno, dangosir ffilm fer a wnaed gan uwchraddedigion yn yr Adran, Ywain Tomos ac Irene Asimenou, sy’n portreadu Aberystwyth, sef 'New Life at the End of the Line', a wnaed fel rhan o’u MA mewn Astudiaethau Ffilm. Am ragor o wybodaeth gweler http://www.aberystwythartscentre.co.uk/whatson/cinema/info/8055/

Ymunodd John â’r Adran ym mis Hydref 2008, ac mae newydd gwblhau “Power and Place”, ffilm fer ar ynni cynaliadwy. Cafwyd rhagolwg ar y ffilm eisoes yr haf yma yn Washington DC fel rhan o ddigwyddiad nodedig Wales Smithsonian Cymru. Mae’r prosiect yn rhan o waith cydweithredol parhaol rhwng yr Adran ThFfTh a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth.

Yr Adran yn Cofio Catrin

Ar 13 Gorffennaf 2009, croesawodd yr Adran deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr Dr Catrin Prys i ddigwyddiad i nodi sefydlu gwobr er cof am Catrin a fuodd farw yn 2006. Sefydlwyd y wobr am y tro cyntaf eleni i fyfyriwr yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn dilyn gradd trwy gyfrwng y Gymraeg, a gafodd y marc cyfartaledd uchelaf am ei gradd. Enillydd Gwobr 2009 oedd Ffion Hâf Jones o Sir Fôn (fel oedd Catrin ei hun) a enillodd radd Dosbarth Gyntaf ag Anrhydedd mewn Drama ac Astudiaethau Theatr. Bydd yr Adran yn enwebu enillydd Gwobr Catrin Prys Jones yn flynyddol.

Bydd enillwyr blynyddol y wobr yn cael eu cyhoeddi ar dudalen gwe Gwobr Catrin Prys Jones.

MA Practising Performance - Llwyfan Perfformio 2009

Perfformiadau gan : Sian Adam, Cara Brostrom, Sinead Cormack, Glesni Mair Edwards, Sarah Guice, Simone Kenyon, Caroline Melia, Shannon Roszell, Naomi Turner

18 + 19 Medi

http://mapractisingperformance.blogspot.com/

Mynediad am ddim. Nifer cyfyngedig o le sydd ar gael yn y gynulleidfa. Archebwch o flaen llaw: http://tftvbookings.aber.ac.uk/

Cyn-fyfyriwr MA Sgriptio ar restr fer cystadleuaeth arobryn

Mae Matt Ruckwood, a raddiodd eleni, wedi cael lle ymysg 10 arall yn unig ar restr fer Gwobr Sir Peter Ustinov ar gyfer Sgriptio Teledu. Dyluniwyd y gystadleuaeth er mwyn annog sgriptwyr newydd dan 30 sy'n dod o'r tu allan i'r UDA. Maent yn ceisio cynnig cydnabyddiaeth ac annogaeth fydd efallai'n gallu arwain at yrfa lwyddiannus ym myd sgriptio teledu. Gofynnir i gystadleuwyr gwblhau sgript ddrama deledu Saesneg rhwng hanner awr ac awr o hyd, ar gyfer cynulleidfa deuluol.

Mae sgript Matt, "The Permanent Way" yn ddrama drosedd Fictorianaidd wedi'i gosod yn Llundain ar gefndir y boom rheilffyrdd a ddigwyddad ar y pryd. Bydd ennillwyr yn cael teithio i'r Emmys yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd i dderbyn eu gwobr.

Llongyfarchiadau i Matt, a phob lwc ar gyfer y gystadleuaeth.

Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Huw Eurig Davies, prif weithredwr cwmwni Boomerang+

Ar Ddydd Gwener 17eg Gorffennaf, cyflwynwyd Huw Eurig Davies, prif weithredwr Boomerang+ yn Gymrawd er Anrhydedd gan Dr John Harries. Roedd Mr Davies yn gyd-sefydlydd y cwmni ym 1994. Er hynny mae wedi tyfu Boomerang i fod yn gwmni hynod o lwyddiannus sy'n cyflogi dros 120 o bobol gyda throsiant blynyddol o tua ugain miliwn o bunnoedd.

Mae’r cwmni yn arbennig o nodedig am y cyfleoedd y maent yn eu darparu ar gyfer cymaint o ddoniau creadigol i aros yng Nghymru, gweithio’n ddwyieithog a gallu cystadlu’n rhyngwladol, gyda nifer ohonynt yn raddedigion o’r Brifysgol hon. Dymuna'r Adran gynnig ein llongyfarchiadau ninnau i Mr Davies ar achlysur ei urddo.

Gellir darllen y cyflwyniad llawn a roddwyd gan Dr John Harries ar y dudalen hon.