Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Diwrnodau Ymweld 2010/2011

Bydd modd i ddarpar fyfyrwyr ddechrau cofrestru arlein ar gyfer Diwrnod Ymweld Adrannol yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 14eg o Dachwedd.

Cadwch lygad allan am e-bost yn eich gwahodd i gofrestru arlein

Os nad ydych yn gwybod beth yw eich Cod Cwrs UCAS mewngofnodwch i’ch tudalen Tracio UCAS yma


 

Mae’n Diwrnodau Ymweld wedi eu cynllunio’n arbennig ar gyfer ymgeiswyr Prifysgol Aberystwyth sydd wedi derbyn cynnig gennym, er mwyn eich galluogi i weld llawer mwy na’r hyn y byddech yn ei weld ar Ddiwrnod Agored.

  • Byddwch yn cwrdd â staff a myfyrwyr eich adran a chewch gyfle i’w holi ynghylch materion pwysig a hefyd cewch glywed eu gwir farn
  • Darganfyddwch yr adran a’r awyrgylch dysgu yn eich amser eich hun, allan o brysurdeb Diwrnod Agored
  • Edrychwch o amgylch Prifysgol Aberystwyth unai fel rhan o daith neu ewch am dro yn eich amser eich hun
  • Mae mwy hefyd...

Byddwn yn talu eich costau teithio. Os ydych yn teithio o fewn y DU byddwn yn talu eich costau teithio ail ddosbarth safonol ar drên neu fws (ymgeiswyr yn unig), neu fel arall byddwn yn rhoi 20 ceiniog y filltir i chi os byddwch yn dod mewn car.

* Bydd gwaith peiriannyddol yn effeithio ar deithiau trên ar y 5ed o Fawrth.

Ni yw’r “Brifysgol Orau yn y Wlad o ran Profiad Myfyrwyr" felly dewch i weld pam.