Amdanom ni
Mae'r Brifysgol yn llwyr ymroddedig i flaenoriaethau'r Cyngor Cyllido a Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r rhwystrau (naill ai'n ffisegol, gymdeithasol, diwylliannol neu ariannol) i Addysg Uwch.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth draddodiad o ymrwymiad i ehangu mynediad ar gyfer grwpiau o bobl sydd wedi'n draddodiadol cael eu tan-gynrychioli yn y sector Addysg Uwch. Sefydlwyd y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol (y Swyddfa Addysg Barhaus bryd hynny) ym 1998 er mwyn datblygu ar un o amcanion sylfaenol y Brifysgol. Mae cyrsiau a rhaglenni yn cefnogi pobl o bob oedran o ysgol Gynradd i oedolion yn y gymuned.
Beth allwn ni ei gynnig
- Cyrsiau/gweithdai yn y gymuned
- Trefnu ymweliadau i'r campws
- Rhaglenni ar gyfer plant Ysgol Gynradd (blynyddoedd 5 a 6 mewn ysgolion lleol Cymunedau yn Gyntaf)
- Gweithgareddau gwyddonol yn yr ysgol a sesiynau gwyddoniaeth i oedolion
- Cefnogaeth i bobl sy'n gadael gofal a rhieni maeth
- Cyngor/cyfarwyddiaeth a chyflwyniadau pe dymunir
- Mentora "ffordd hyn" i israddedigion newydd
Yr Adran yng Nghynllun Strategol Y Brifysgol 2009-2013 sy'n ymwneud ag Ehangu Mynediad
Mae ein Strategaeth Ehangu Mynediad yn canolbwyntio ar chwe phrif amcan ac yn ceisio:
- ehangu mynediad ymysg y gymuned leol, yn enwedig Ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf ac ardaloedd eraill sydd mewn angen a lle mae cyfranogaeth isel,
- codi dyheadau a chyraeddiadau disgyblion ysgol, drwy ddatblygu eu potensial academaidd a sicrhau eu bod yn cyfarwyddo â'r cyfleoedd a gynigir gan Addysg Uwch,
- ehangu mynediad i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg,
- ehangu mynediad i Wyddoniaeth gan feithrin ar lwyddiant y nifer cynyddol o newydd-ddyfodiaid sy'n astudio gwyddoniaeth yn Aberystwyth ac i geisio mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhyw sy'n bodoli mewn meysydd penodol.
- gwella cyfraddau cadw a chyraeddiadau myfyrwyr sy'n agored i niwed,
- ehangu mynediad i fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid a mewnfudwyr economaidd, rheini sydd ag anabledd, ac eraill lle mae rhwystrau yn eu hatal rhag symud ymlaen i Addysg Uwch.
Edrychwch ar ein cylchlythyr drwy glicio 'CWPSI Llythyr Newyddion yr Hydref 2011'.