![]() |
![]() |
|
| | HOME | SPORTS CENTRE | CONTACT | |
|
Cynnwys Prifysgol Aberystwyth yng Nghanllaw Campau Hyfforddi Cyn-Gemau y
Gemau Olympaidd yn Llundain
Hyfforddiant Olympaidd yn Aberystwyth! Mae pawb yn ymwybodol y bydd y gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yn cael eu cynnal yn Llundain ond efallai nad yw pawb yn sylweddoli y bydd lleoedd sydd gryn bellter o Lundain yn rhedeg gwersylloedd hyfforddi athletwyr. Mae ein Hadran ni wedi ei dynodi’n wersyll hyfforddi beicio mynydd yn y pamffled ar gyfer y gwersylloedd hyfforddi cyn y gemau. Bydd y pamffled hwn yn cael ei lansio yn ystod y Gemau yn Beijing yn yr haf eleni fel bod modd i’r gwledydd sy’n cymryd rhan ddewis lle maent eisiau anfon eu timau i hyfforddi a pharatoi cyn y Gemau. Mae lleoliad Aberystwyth yn ei wneud yn ddelfrydol i bob math o weithgaredd awyr agored, gan gynnwys caiacio môr, seiclo ffordd, rhedeg bryniau ac wrth gwrs beicio mynydd. Os oes diddordeb gennych mewn beicio mynydd ewch i’r ddolen ganlynol: - Nant yr Arian mountain biking centre. Dywedodd Dr Rhys Thatcher, a arweiniodd gynnig llwyddiannus yr Adran i gael gwersyll hyfforddi yma, “Rydym yn wirioneddol falch o gael ein henwi yn y pamffled gan fod hyn yn rhoi cyfle i ni i ddangos i’r byd beth sydd gan Aberystwyth i’w gynnig”.
|
|