Ardystiad Prifysgol Di-Blastig
Ym mis Mai 2018 gwnaeth Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor gymeradwyo cefnogi gwaith i ddod yn un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i gael Ardystiad Di-Blastig. Cynhelir y cynllun gan yr SAS ac mae’n cynnwys 5 elfen;
- Trefn lywodraethol Leol – Rhaid i’r Cyngor arwain drwy esiampl i gael gwared ar eitemau plastig untro o’u hadeiladau/gweithgareddau. Dylai’r Cyngor annog mentrau ‘di-blastig’, hyrwyddo’r ymgyrch a chefnogi digwyddiadau.
- Gweithgaredd Busnes – Dylai o leiaf tair o eitemau plastig untro gael eu tynnu o bob man gwerthu a’u cyfnewid am eitemau eraill cynaliadwy.
- Cynghreiriaid Di-Blastig – ennill cymorth y gymuned ehangach i gael statws Di-Blastig, lledaenu’r neges Di-Blastig a dangos gwrthwynebiad i diroedd diffaith.
- Ralïau Di-Blastig - Ymgyrchoedd Glanhau Traethau cymunedol (neu ddigwyddiad arall addas), cymryd rhan yn nigwyddiadau glanhau traethau cenedlaethol yr SAS bob Gwanwyn a Hydref.
- Sefydlu grŵp di-blastig strategol
Yn rhan o’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth, byddwn yn cynnal Diwrnod Heb Blastig ddydd Mawrth 26 Mehefin a fydd yn cynnwys:
- Mannau gwerthu’r gwasanaethau croeso’n cyfyngu ar werthiant nifer o eitemau plastig untro
- Cynnig arbennig ar brynu cwpanau coffi amldro @ £1.50
- Stondin wybodaeth ar y Piazza rhwng 11yb – 2yp
- Teithiau codi sbwriel yn gadael y Piazza am 12yp ac 1yp
- Dangos ‘A Plastic Ocean’ yn rhad ac am ddim yn sinema Canolfan y Celfyddydau am 5.45yp. Archebwch eich tocyn ar-lein.
Rydym hefyd yn gofyn i’r holl adrannau wneud addewid ar ddydd Mawrth 26 Mehefin yn nodi sut y byddant hwy’n helpu Aberystwyth i fod yn gampws di-blastig.
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer addewidion posibl:
- Rhoi’r gorau i ddefnyddio amlenni gyda ffenestri plastig
- Rhoi’r gorau i ddefnyddio balwnau mewn digwyddiadau
- Defnyddio cwpanau coffi amldro ar gyfer hyfforddiant a chyfarfodydd yn hytrach na chwpanau untro
- Defnyddio jygiau dŵr a chwpanau amldro yn hytrach na dŵr potel ar gyfer hyfforddiant a chyfarfodydd
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gymryd rhan e-bostiwch ded17@aber.ac.uk