Dulliau Hybu Gradd i Israddedigion ac Uwchraddedigion
Mae'r Adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle dysgu unigryw i chi, cyfle a all roi hwb i'ch gradd a’ch cynorthwyo i sefyll ben ac ysgwydd uwchben y dorf.
Beth yw Dysgu Gydol Oes?
Mae Dysgu Gydol Oes yn cynnig modiwlau byr, sy’n rhoi credydau mewn amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys Celf a Dylunio, Ysgrifennu Creadigol, Ecoleg, Archaeoleg, Hel Achau, Hanes, Astudiaethau Natur, Ieithoedd (Arabeg, Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg, Groeg, Eidaleg, Japanaeg, Rwsieg a Sbaeneg), a Datblygu Proffesiynol.
Beth allwn ni ei wneud i chi?
Ochr yn ochr â'ch rhaglen radd, mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gallu astudio un modiwl y tymor YN RHAD AC AM DDIM.
Mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw brifysgol arall gofrestru a manteisio ar ein modiwlau achrededig.
Beth yw'r manteision?
- Personoli'ch CV a gadael y brifysgol â chyfres o sgiliau newydd.
- Dysgu am eich bod yn mwynhau! Astudio modiwl mewn pwnc sy’n golygu rhywbeth ichi, neu roi gynnig ar rywbeth newydd.
- Cwrdd a chymdeithasu ag amrywiaeth o bobl o wahanol gefndiroedd.
- Ategu eich astudiaethau a'ch pwnc gradd.
Sut mae ein modiwlau yn cael eu darparu?
Mae ein modiwlau yn cael eu dysgu naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae gan ein tiwtoriaid gymwysterau a phrofiad. Maent yn darparu adnoddau astudio hygyrch ac maent wrth law i roi hyfforddiant ac arweiniad arbenigol.
Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau ar-lein yn rhai sy’n cael eu hastudio yn eich pwysau eich hun, sy’n rhoi hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble y dymunwch. Mae'r modiwlau hyn yn cael eu cyflwyno trwy Blackboard – y llwyfan dysgu ar-lein. Rydym hefyd yn defnyddio Microsoft Teams neu Zoom i gyflwyno elfennau byw y cyrsiau ar-lein.
Mae’r cyrsiau iaith yn cael eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb ac mae pob dosbarth yn fyw.
Cynhelir rhai o'n modiwlau yn gyrsiau penwythnos dwys mewn mannau eraill yng Nghymru.