Llety Haf

Angen rhywle i fyw yn ystod yr haf (Mehefin - Medi)? Os byddwch yn fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yna does dim angen edrych ymhellach gan ein bod yn darparu llety Prifysgol Aberystwyth yn ystod y cyfnod hwn. Felly p'un ai eich bod yn byw mewn neuadd ar hyn o bryd ac eisiau ymestyn eich cyfnod yma neu yn byw mewn tŷ sector preifat ar hyn o bryd, mae llety haf ar gael i chi!

Disgwylir i geisiadau am lety haf agor am 10.00 y bore Dydd Iau 9 Mai 2024.

Bydd llety haf y Brifysgol ar gyfer 2024 yn:

Trefloyne (llety hunanarlwyo, gydag ystafelloedd sengl).  Y gost wythnosol yw £110.31 (£15.76 bob nos).  Bydd y llety hwn ar gael o dydd Llun 24 Mehefin a 6 Medi 2024.

Rosser (llety hunanarlwyo, en-suite, gydag ystafelloedd sengl).  Y gost wythnosol yw £138.45 (£19.78 bob nos).  Bydd y llety hwn ar gael o dydd Llun 24 Mehefin a 6 Medi 2024.

Os ydych yn llety'r Brifysgol gyda ni ar hyn o bryd, byddwch yn gallu aros yn eich llety presennol hyd nes y gallwn eich symud i'ch llety haf.  Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gallwn ofyn i chi symud yn gynt. 

Mae'n rhaid i chi fod yn Aberystwyth pryd hyn i symud.

Os ydych yn symud i mewn o'r sector preifat bydd y llety hwn ar gael rhwng 24 Mehefin tan 6 Medi 2024.  

Mae'r costau wythnosol yn cynnwys ynni, rhyngrwyd/WiFi, lefel uchel o yswiriant cynnwys personol, ac Aelodaeth Platinwm o’r Ganolfan Chwaraeon AM DDIM ar gyfer eich iechyd a'ch lles.

Mae llety haf y Brifysgol ar gael i fyfyrwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth yn unig.

Sut i Wneud Cais

Mae ceisiadau ar agor o 10:00yb ar ddydd Iau 9 Mai 2024.

Er mwyn sicrhau llety haf bydd angen i chi :

  1. Mewngofnodi i'r Porth Llety drwy'r botwm ABER Student Login
  2. Dewiswch 'Archebu Llety ar gyfer yr Haf'
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau lle bydd angen i chi ddewis eich ystafell a'r ddyddiadau rydych chi am aros.

Noder:

  • Ni fydd ceisiadau am lety haf yn cael eu hystyried os oes gennych ddyled llety sy'n weddill gyda PA neu os ydych wedi cael eich gwahardd rhag Preswylfeydd PA yn ystod cyfnod eich trwydded tymor.
  • Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael cyfle i gael eu rhoi ar restr aros pe bai llefydd yn dod yn wag. 

Beth yw fy opsiynau os ydw i'n graddio eleni?

Ni fyddwch bellach yn fyfyriwr cofrestredig.

Os nad ydych yn fyfyriwr sydd wedi cofrestru gyda PA gallwch geisio cysylltu a'r Swyddfa Gynadleddau am lety arall.  Fel arall, gallwch wirio argaeledd gwestai/gwely a brecwast lleol.

 

Pryd alla i symud i lety haf?

Ydych chi'n byw yn llety’r Brifysgol ar hyn o bryd?

Os ydych chi’n byw mewn llety prifysgol ar hyn o bryd, bydd eich llety haf ar gael i chi o 24 Mehefin 2024.

Cewch ragor o fanylion am symud i mewn i'ch llety haf trwy e-bost cyn i chi symud, felly cadwch olwg ar eich cyfrif e-bost PA yn rheolaidd, efallai y bydd angen i ni eich symud yn gynharach na'r dyddiad hwn.

Ydych chi'n byw yn y Sector Preifat ar hyn o bryd?

Os ydych chi’n byw yn y sector preifat ar hyn o bryd, yna bydd eich llety haf ar gael i chi o 24 Mehefin 2024.  Yn anffodus, ni allwn gynnig llety haf i chi cyn y dyddiadau hyn. Os ydych chi angen llety cyn y dyddiadau hyn, cysylltwch â'r Swyddfa Gynadleddau i weld a yw ein Byncws ar gael.

A oes raid aros am gyfnod penodol?

Isafswm hyd yr arosiad yw 3 wythnos.

Tan ba bryd y bydd llety haf ar gael?

Bydd llety haf ar gael tan 10.00yb ar ddydd Gwener 6 Medi 2024.   Sylwch na fyddwn yn gallu eich cymhwyso o fewn llety haf yn hwyrach na'r dyddiadau a nodwyd.

Byddwch yn derbyn rhagor o fanylion ynglŷn â’r trefniadau symud allan wrth ichi gyrraedd.

Beth os ydw i hefyd yn mynd i fod yn byw mewn llety PA ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25? A allaf aros tan bod fy llety tymor yn barod i mi symud i mewn?

Mae ein Contract Meddiannaeth tymor 2024/25 yn dechrau dydd Gwener 20 Medi 2024.

Os ydych wedi sicrhau lle mewn llety haf PA a hefyd wedi sicrhau lle mewn llety PA ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yna gallwch barhau i fyw gyda ni nes bydd eich llety tymor ar gael wrth dewis y dyddiadau priodol ar y ffurflen gais.
Bydd angen i chi fod yn Aberystwyth yn barod i symud i'ch llety tymor 2024/2025, o 6 Medi 2024.

Sut mae talu am lety haf?

Fel rhan o’ch Contract Meddiannaeth, er mwyn sicrhau eich llety, gofynnir i chi dalu 3 wythnos o rent ymlaen llaw a sefydlu cynllun talu er mwyn talu am weddill eich ffioedd llety haf. Os oes gennych gwestiynau ynghylch talu ffioedd, cysylltwch â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr ffioedd@aber.ac.uk

A fydd angen i mi dalu blaendal?

Gofynnir am daliad o wythnos o rent ymlaen llaw i sicrhau llety haf sy’n ddaladwy wrth i chi gwblhau eich Contract Meddiannaeth.

Ceir manylion am ad-dalu blaendal yn y Contract Meddiannaeth sydd ar gael yn y Llawlyfr i Breswylwyr.

A fydd unrhyw Arolygiadau yn ystod fy arhosiad?

Bydd arolygiadau yn parhau i gael eu cynnal trwy gydol yr haf gyda manylion pellach yn cael eu hanfon atoch gan y Tîm Rheoli Bywyd Campws. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag arolygiadau i'w gweld ar ein gwefan.