Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Myfyrwyr yn weithio yn yr adeilad Parry-Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gwnewch gais i Aberystwyth nawr am gyfle i gael dros £18,000 mewn Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

Pam dylwn i wneud cais am ysgoloriaeth?

Mae Aberystwyth yn rhoi pwyslais ar gefnogi ein myfyrwyr, gan gynnwys yn ariannol. Mae ein hysgoloriaethau a bwrsariaethau hael yn golygu y gall ein myfyrwyr gyfuno pecynnau ariannol gwerth dros £18,000, a’r newyddion da yw nad oes angen ei ad-dalu!

Pa ysgoloriaethau sydd ar gael?

Mae gennym nifer o wobrau ar gael i’n myfyrwyr a gellir cyfuno pecynnau ariannol. Cewch edrych ar ein llyfryn Cymorth Ariannol a Gwobrau neu ddilyn y dolenni isod am fwy o wybodaeth.

Pwysig

Sylwer bod ymgeiswyr i'r cwrs BVSc Gwyddor Milfeddygaeth yn gymwys i gael ysgoloriaethau a bwrsariaethau a ddyfernir gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn hytrach na dyfarniadau Prifysgol Aberystwyth.  Fodd bynnag, gweler y ddolen isod am amrywiaeth o ddyfarniadau a grëwyd yn benodol ar gyfer ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol.

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac sy'n ymroddedig i Gyfle Cyfartal.  Mae croeso i chi wneud cais am ysgoloriaeth/grant/gymorth ariannol yn Gymraeg neu'n Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.